Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 8 Gorffennaf 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.46 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Lesley Griffiths Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Dywedodd y Dirprwy Lywydd fod Adnewyddu’r Polisi Newid Hinsawdd yn bwnc pwysig o ddiddordeb yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, a chredai efallai y byddai datganiad llafar yn briodol.
Holodd y Rheolwyr Busnes pam bod y Rheoliadau Lles Anifeiliaid wedi cael eu gohirio tan fis Medi; cytunodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
3.3 Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mercher 24 Medi 2014
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â’r Bil Dadreoleiddio yn ymwneud â deddfwriaeth ynglŷn â blaendaliadau tenantiaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol erbyn 2 Hydref 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Hydref 2014.
5 Cyllideb
5.1 Amserlen ar gyfer Cyllideb 2015-16: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon gweithio at y dyddiad cau arfaethedig o 11 Tachwedd 2014 i gyflwyno adroddiad ar y gyllideb ddrafft.
Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes y dyddiad cau a bydd Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes yn cyhoeddi’r amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4 ac yn rhoi gwybod i gadeiryddion pwyllgorau.
6 Pwyllgorau
6.1 Bil Cymru: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn tynnu sylw Rheolwyr Busnes at argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cymru. Mae’r adroddiad yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn edrych ar ddiwygio Rheol Sefydlog 29 i gynnwys rhoi swyddogaethau ar y Cynulliad o fewn ei gwmpas.
Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon i swyddogion weithio gyda Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r argymhelliad hwn, ac i ddod â phapur i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am y cynnydd a wnaed, mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi gwybod am benderfyniad y Pwyllgor.
7 Cyfarfod Llawn
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad yr haf.
7.1 Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf
Uwchgynhadledd NATO
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd sesiwn friffio arbennig gyda’r heddlu i holl Aelodau’r Cynulliad ar uwchgynhadledd NATO yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth yn ystafell friffio’r cyfryngau.
Dadleuon a Phwyllgorau’r Gwrthbleidiau
Yn dilyn y ddadl ar dwristiaeth yr wythnos ddiwethaf, lle mynegodd aelodau’r pwyllgor, gan gynnwys Cadeirydd, farn ar fater a oedd ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan bwyllgor. Cododd y Llywydd bryderon y gallai tystion gael eu troi yn erbyn rhoi tystiolaeth os ydynt yn gweld bod yr Aelodau eisoes wedi gwneud eu penderfyniad. Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes ystyried hyn.
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad
Yn dilyn ystyriaeth yr wythnos ddiwethaf o gynigion i adolygu Cwestiynau Llafar y Cynulliad, holodd Elin Jones am yr amserlen ar gyfer unrhyw newidiadau. Cytunodd y Llywydd i ddod â phapur i gyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf.